Dechreuwyd cynnal y rhain i ddechrau ar ôl cael grant gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych. Bellach mae ein Diwrnodau Gwneuthurwyr bob dydd Gwener rhwng 10am a 4pm wedi bod yn cael eu cynnal am flwyddyn!

Rydym ni’n darparu lle cynnes a chyffyrddus ar gyfer gwneud eitemau a sgwrsio, am ddim ond £2 am y diwrnod cyfan.

Mae pobl yn dod â pha bynnag brosiect maen nhw’n gweithio arno ar hyn o bryd.

Mae gennym ni wehyddwyr, troellwyr, pobl sy’n gwau, pobl sy’n trin ffelt, rhai sy’n creu cardiau, printio a modelau, cerflunwyr, trinwyr lledr a phobl sy’n galw draw am baned a sgwrs!

Rydym ni’n croesawu pobl newydd bob amser ac mae croeso i chi alw i mewn a gweld beth sy’n digwydd – croeso i chi aros am awr neu am y diwrnod cyfan!

FaLang translation system by Faboba