Mae Cymuned Pentredwr wedi dyfeisio ffordd o barhau gyda rhai o’r gweithgareddau cymdeithasol gwerthfawr a fyddai’n cael eu cynnal yn y ganolfan gymuned yn arferol, ond nad ydynt wedi bod yn digwydd ers i’r cyfyngiadau symudiadau ddod i rym ym mis Mawrth.

O ddechrau Mai bydd boreau coffi, dosbarthiadau ioga a ffitrwydd ynghyd â chwisiau, dosbarthiadau celf, gwersi coginio, grwpiau llyfrau ac anerchiadau’n cael eu cynnal trwy gyfrwng Zoom a phlatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill.

Byddwn yn defnyddio ein tudalen Facebook a’n gwefan ar gyfer bwcio ac fel man cael gwybodaeth, ynghyd â chylchlythyr wythnosol y gellir ei argraffu ar gyfer y rhai ohonom ni heb gysylltiad di-wifr.
Fel pentref gwledig mae’r cyfyngiadau wedi achosi ynysu ychwanegol sydd wedi cael effaith mawr ar ein cymuned a gobeithiwn y gwnaiff y prosiect hwn helpu ein cymuned i gysylltu gyda’i gilydd unwaith eto.

 

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

FaLang translation system by Faboba